Gwnawd ffordd i'r nef gan Iesu cu 'Nawr gwel'd yr 'ym ein cartre' fry; A'r anwyl Oen, a'i ddwylo'n waed, Yn dangos lle yw nhŷ ein Tād. Yn mhlith y gwych fendigaid lu, Fu'n ymladd a gelynion hy Aeth etto 'mlaen, er gwaetha llīd, Yn moli 'nawr mewn nefol fyd. Yn gorphwys fry heb friw na phoen, Ar feingciau oddeutu maingc yr Oen; Mae llwybrau rhai'n i wel'd o hyd Nes d'od o fewn i'r nefol fyd. Ymdrechu wnawn, trwy nerth ein Duw, Nes cael y wisg a'r goron wiw, O law'n gelynion fyn'd yn rhydd, A chael yr uchel gamp a'r dydd. Rhedwn ar frys, mawr yw y fraint, Y nef yw diwedd gyrfa'r saint; Er maint yw'r llid, par'tow'd ein lle Yn mynwes Naf o fewn i'r ne'.William Williams 1717-91 [Mesur: MH 8888] gwelir: Rhan I - Trafaelwyr ŷm i'r Ganaan glyd Pererin wyf tua Salem bur Rhedwn ar frys mawr ydyw'r fraint |
A way was made to heaven by dear Jesus Now seeing we are our home above; And the beloved Lamb, with his hands as blood, Showing where our Father's house is. Amongst the brilliant blessed host, Who fought with a proud enemy Who still went forward, despite wrath, Praising now in a heavenly world. Resting above without bruise or pain, On benches around the Lamb's throne; Their paths are still to be seen Leading into the heavenly world. Let us make a effort, through our God's strength, Until getting to wear the worthy crown, From the hand of our enemies going free, And winning the high prize and the day. Let us run hurriedly, great is the privilege, Heaven is the end of the saints' course; Despite how great is the wrath, prepared is our place In the Master's bosom within heaven.tr. 2018 Richard B Gillion |
|